Blasu Conwy
Marchnad Ffermwyr
Cynnyrch o ansawdd a gynhyrchwyd yn lleol ac ar ffermydd

cig oen, cig eidion, pysgod, llysiau, ffrwythau, teisennau, jamiau, cyffeithiau, mêl, caws, cynnyrch llaeth, wyau, bara, pasteiod, siocled, melysion, planhigion,
blodau a gwlân
(yn dibynnu os ydynt ar gael)


CYFFORDD LLANDUDNO
Gwarchodfa Natur RSPB rhwng 9am a 2pm
(Dydd Mercher olaf y mis)


25 Mehefin
30 Gorffennaf
27 Awst
24 Medi
29 Hydref
26 Tachwedd
17 Rhagfyr
Os oes gennych ymholiadau am gynhyrchwyr neu stondinwyr, cysylltwch
Mark Ellis ar 07765 623854
Marchnad Ffermwyr

Mae Bwyd Lleol yn golygu bwyd sydd wedi ei dyfu neu wedi’i brosesu mewn ardal ddaearyddol. Mae cynnyrch bwyd lleol yn aml yn cynnwys arferion cynaliadwy neu foesegol fel ffermio organig neu ddefnyddio cynnyrch Masnach Teg. Mae’r rhain i gyd yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol, iechyd ac amgylcheddol i’r ardal leol.

Bwriad y wefan hon yw rhoi gwybod am rai o’r prif gynhyrchwyr bwyd lleol yn Sir Conwy, gan ddarparu darlun o’u cynnyrch a’u busnes, ynghyd â manylion o sut a lle y gallwch chi brynu’r bwyd. Ceir tudalennau pellach hefyd yn rhoi trosolwg o fanteision y diwydiant bwyd lleol a’r hyn y gallwch ei wneud i’w gefnogi. Mae tudalennau eraill yn rhoi manylion am ddigwyddiadau yng Nghonwy lle gallwch brynu bwyd yn lleol, a rhestr o siopau, bwytai, caffis a gwestai yn y sir sydd wedi ymrwymo i gyflenwi bwyd lleol. Rydym bob amser yn chwilio am fwy o gyflenwyr bwyd lleol, felly, os oes cynhyrchydd neu werthwr bwyd lleol, neu westy, bwyty, caffi, tafarn neu wely a brecwast sydd wedi ymrwymo i ddarparu bwyd lleol yr hoffech ei enwebu, ewch i’n Tudalen Cyflenwyr Bwyd Lleol a llenwi’r ffurflen ar-lein a dweud wrthym amdanynt.

Mae Blasu Conwy yn cael ei reoli a’i noddi gan Fenter Bwyd Amaethyddol Conwy, prosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriad y fenter yw archwilio'r cyfleoedd i godi proffil bwyd o Gonwy, i annog busnesau yn y sector, ac i helpu datblygu marchnadoedd newydd a ffyrdd o ddosbarthu ar gyfer y sector. Yn ei dro, disgwylir y bydd hyn yn datblygu twf economaidd cynaliadwy o’r sector bwyd amaethyddol yng Nghonwy. Mae’r wefan sy’n cael ei rhedeg a’i chynnal i ddechrau gan Fenter Bwyd Amaethyddol Conwy am ddim i gynhyrchwyr.

Menter Bwyd Amaethyddol Conwy
Ffôn: 01492 643147 Rhif ffôn Symudol: 07733 012590
contact@tasteofconwy.co.uk
Logos
Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref
Cynhyrchwyr 1
Cynhyrchwyr 2
Cymraeg