1. Gostyngwch y milltiroedd rydych chi’n eu teithio i nôl bwyd drwy brynu bwyd yn agos at lle mae’n cael ei gynhyrchu. Mae rhai bwydydd yn dirywio wrth gael eu cludo ac mae costau cymdeithasol ac amgylcheddol yn gysylltiedig â chludiant hefyd. Ymunwch â chynllun llysiau lleol er mwyn cael cynnyrch ffres yn syth i’ch cartref. I ddod o hyd i gynllun sy’n agos atoch chi, ffoniwch 0117 314 5000 neu ewch i www.whyorganic.org. a chwiliwch dan y pennawd ‘The Organic Directory’ yn yr adran ‘Get Involved’. Gallwch ddod o hyd i’ch cyflenwyr organig lleol drwy fynd i www.independentquality.co.uk a chwilio ei fap rhyngweithiol o’r DU.
2.Siopiwch mewn marchnad ffermwyr sy’n rhoi’r cyfle i chi brynu cynnyrch ffres, a dyfwyd yn lleol a chyfle i siarad â’r cynhyrchwyr. Gall FARMA (National Farmers’ Retail and Markets Association) roi rhestr i chi o farchnadoedd ffermwyr yn y DU – ffoniwch 0845 458 8420 neu ewch i www.farma.org.uk a chlicio ar y map ‘Find a farmer’s market near you’. I gael rhestr o’ch siopau ffermydd lleol, cliciwch ar ‘Find a Farm Retailer’ yn www.farmshopping.net , gwefan sy’n gysylltiedig â FARMA. I ddod o hyd i farchnadoedd ffermwyr yng Nghymru, ewch i www.fmiw.co.uk a chlicio ar ‘find a market’ neu ffoniwch 08456 106 496.
3. Bwytewch yn dymhorol drwy siopa a choginio yn dibynnu ar y tymor, yn hytrach na phrynu cynnyrch byd-eang. Cefnogwch dyfwyr lleol sy’n cynhyrchu’r bwyd tymhorol gorau posibl. Rhowch restr o fwydydd tymhorol ar ddrws yr oergell i’ch atgoffa a chwiliwch am ddigwyddiadau a gwyliau bwyd fel rhan o ddathliadau Pythefnos Fwyd Prydain (www.britishfoodfortnight.co.uk) sy’n cael eu cynnal rhwng 22 Medi a 7 Hydref.
4. Edrychwch am gynhyrchion lleol pan fyddwch chi yn yr archfarchnad. Edrychwch ar y label i weld os yw’r cynhyrchion yn dod o’ch ardal chi, neu o leiaf o’r DU. Cyn belled ag sy’n bosibl, osgowch fwyd sy’n cynnwys symbol o awyren, sy’n dangos ei fod wedi’i gludio i’r DU gan awyren. Oes yna gynnyrch lleol tebyg i’r hyn roeddech chi’n bwriadu ei brynu?
5. Siopwch yn eich cigydd, becws, siop nwyddau neu siop bysgod lleol, a gostwng y gyfran o 80% o’r farchnad sy’n nwylo archfarchnadoedd ar hyn o bryd. Ceisiwch brynu gan siopau lleol o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos. I gael gwybodaeth am sut i brynu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol, cysylltwch â The Soil Association drwy ffonio 0117 914 2424 neu ewch i’w gwefan yn www.soilassociation.org/localfood a dilynwch y ddolen gyswllt i ‘Networks in your area’.
6. Tyfwch eich llysiau neu ffrwythau eich hun hyd yn oed os mai dim ond gardd, balconi neu focs ffenestr fechan sydd gennych chi. Mae rhentu rhandir hefyd yn ffordd arall o greu man i chi gael tyfu cynhyrchion eich hyn. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am fanylion o randai yn eich ymyl neu gofynnwch yn eich llyfrgell lleol am randiroedd preifat yn eich ardal. Ewch i www.allotment.org.uk i gael cyngor am ddod o hyd i randir a’i reoli.
7. Bwytewch yn eich bwytai a thafarndai lleol a gofynnwch am fwydydd lleol sydd ar y fwydlen. Bwytewch eich bwyd gyda chwrw lleol am brofiad bwyta hollol ranbarthol.
8. Pigwch eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun o ffermydd ffrwythau a llysiau lleol – byddwch yn cael pleser wrth wybod eich bod yn bwyta bwyd rydych chi wedi’i ddewis eich hun. Ewch i www.pickyourown.org i gael manylion o ffermydd ffrwythau yn eich ymyl chi.
9. Bwyd lleol ar gyfer ysgolion a’r gwaith. Gofynnwch i staff y gegin yn ysgol eich plant neu’ch gweithle a fyddent yn gallu cynnwys cynhyrchion lleol yn eu bwydlen yn rheolaidd. Efallai y gallent gynnig bwydydd fwydydd tymhorol yn rheolaidd gan ddefnyddio cynhyrchion lleol gan ddechrau perthynas hir gyda chyflenwyr lleol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.whyorganic.org a chliciwch ar ‘School Meals’ yn yr Adran ‘Family’.
10. Coginio gartref. Gwahoddwch ffrindiau neu deulu draw am bryd o fwyd wedi’i goginio gan ddefnyddio cynhyrchion lleol yn bennaf ac efallai y byddwch chi’n cyflwyno bwydydd newydd iddyn nhw ar yr un pryd.

