Blasu Conwy
MELYSION
PYSGOD
MÊL
DIODYDD
NWYDDAU WEDI’U POBI
WYAU
NWYDDAU
WEDI’U MYGU
ARALL
CYNNYRCH LLAETH
ORGANIG
CIGOEDD
(Amrwd/Wedi’u Coginio)

Mae Bwyd yn chwarae rôl bwysig yn yr economi lleol, gan greu ein diwylliant, tirwedd ac iechyd. Fodd bynnag, gyda bwyd yn teithio’n ymhellach nag erioed o’r blaen, o’i gynhyrchu i’w fwyta, mae’r blynyddoedd diweddar wedi gweld ffermydd teuluol, siopau bach a lladd-dai lleol yn dod i ben, gan nad ydynt yn gallu cystadlu mewn marchnad byd eang cynyddol. Mae’r poaleiddiad cynhyrchiad bwyd hwn wedi arwain at golled o arbenigedd a chynhyrchu crefftau gyda llawer iawn mwy o gynnwys y gymuned nag yn y gorffennol. Mae angen i gymunedau lleol fod wrth wraidd y broses er mwyn hybu ein bwydydd a’n systemau ffermio, drwy ddatblygu rhwydweithiau bwyd lleol, sy’n dod â phobl gyda’i gilydd ac sydd o fantais i’r economi lleol drwy gadw incwm bwyd yn y gymuned.

Cynhyrchwyr Bwyd
Cliciwch yma i gael gweld delwedd mwy

Mae nifer o sefydliadau yn rhan o ddatblygu a chefnogi’r rhwydweithiau ar gyfer bwyd lleol, a dyfwyd, a gynaeafwyd ac a gynhyrchwyd i gyd mewn un ardal. Mae annog y gymuned i ‘brynu pethau’n lleol’ yn cynnwys manteision cymdeithasol o gynyddu perchnogaeth lleol a chyfranogiad, amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, a chynnydd mewn dewis o gynhyrchiad bwyd. Mae ganddo fanteision amgylcheddol hefyd gan gynnwys llai o becynnu, llai o gostau teithio, a dwyster o arferion ffermio. Gan fod lefelau maeth yn uwch oherwydd llai o amser teithio, gweithgareddau bwyta iechyd lleol a llai o gludo anifeiliaid yn debygol i fod yn rhai o’r manteision iechyd o fwyd o’r fath, ni ellir gwadu’r manteision economaidd. Mae’r rhain yn cynnwys adfywio economaidd lleol, annog entrepreneuriaeth a chynyddu ‘gwerth ychwanegol’ i’r cynhyrchydd.

 

Mae gan Gonwy'r hawl i ymfalchïo mewn cyflenwi’r rhai o’r cynnyrch gorau yng Nghymru gan fod ei dirwedd yn adlewyrchu ansawdd amrywiaeth a hirder. Mae Afon Conwy sy’n ffurfio ochr ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri yn llifo drwy’r sir, ac sy’n ffurfio ochr ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri, mae Sir Conwy yn llawn o amrywiaeth o dopograffeg, sydd wedi dylanwadu ar amaethyddiaeth a chynhyrchion bwyd yn y gornel ogledd-orllewin hon o Gymru. Mae’r uwchdir ar y naill ochr i Ddyffryn Conwy yn cynhyrchu Cig Eidion Du a Chig Oen Cymru sy’n enwog ledled Cymru, yr afonydd a’r môr yn rhedeg ar hyd ei ganol, ac i’r gogledd yn darparu cyflenwad gwych o bysgod a physgod cregyn ffres gan gynnwys cregyn gleision Conwy. Oherwydd hyn, mae llawer o gynhyrchwyr bwyd bychan wedi eu sefydlu yn yr ardal, gan gadw enw da i greu siocled gwych, cwrw unigryw, bwydydd wedi eu mygu a theisennau traddodiadol. Mae’r symudiad hon tuag at fwyd organig hefyd wedi tyfu yn y sir, gyda nifer o gynhyrchwyr llwyddiannus o gig eidion, cig oen ac wyau organig.

Cartref
Cynhyrchwyr
Cyflenwyr
Cymdeithasau
Digwyddiadau