Arlwyo Nant Catering
Ty Nant Isaf
Pandy Tudur
Abergele
Conwy
LL22 8UN
Manylion cyswllt:
Gwyn ac Elwy Williams
Rhif Ffôn: 01745 860647
Rhif Ffôn Symudol:
07799 713170
E-bost:
gwyn@tyisa.plus.com
Byrgyrs traddodiadol, mint a tsili, stêcs cig oen a selsig cig oen a chennin.
Ar werth yn:
Amrywiol ddigwyddiadau a sioeau gan gynnwys Gwledd Conwy – 21 a 22 Hydref 2006.
Byddant ar gael ym Marchnadoedd Ffermwyr Conwy a drwy archebion post yn fuan.

O fferm ar Fynyddoedd Hiraethog uwchben Dyffryn Conwy mae dau frawd, Gwyn ac Elwy Williams, yn prysur ddyfeisio defnydd newydd ar gyfer y cig oen o’u praidd o 800 o ddefaid Suffolk a Texel. Maent yn masnachu fel Arlwyo Nant Catering ac mae eu byrgyrs cig oen a’u stêcs cig oen bellach yn gwerthu’n gyflym o’u trelar arlwyo newydd mewn digwyddiadau a sioeau o’r Amwythig i Bwllheli.
Mae’r brodyr a’u rhieni, Pendri a Gwyneth, wedi bod yn ffermio cig oen a chig eidion o Tŷ Nant Isaf a Phandy Tudur am 45 o flynyddoedd ond roeddynt yn bryderus am hyfywedd tymor hir y fferm..

“Oherwydd bod prisiau marchnad yn gostwng, rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd eraill i ychwanegu gwerth at ein cig oen a hybu incwm y fferm,” meddai Gwyn. Gydag anogaeth gan ffermwyr ifanc eraill sy’n rhan o’r grŵp Agrisgôp lleol, sy’n cael ei arwain gan Menter a Busnes, fe’i argyhoeddwyd i amrywio eu cynnyrch. “Rydym wedi bod yn pendroni am gael ein trelar arlwyo symudol ein hunain am flynyddoedd” meddai Elwy, “a'r peth gorau am werthu cynnyrch o’ch cig oen eich hun yw eich bod yn cael adenillion uniongyrchol ar eich buddsoddiad.” Mae Gwyn ac Elwy wedi datblygu eu ryseitiau eu hunain ar gyfer Byrgyrs Traddodiadol mintys a tshili sy’n cael eu cynhyrchu 12 milltir i ffwrdd yn Ninbych, lle mae’r ŵyn yn cael eu lladd a’u prosesu. “Rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod ein cynnyrch mor gywrain ag sy’n bosib,” meddai Gwyn, “felly nid ydym yn caniatáu unrhyw gadwolion, dim ond cynhwysion naturiol, ac rydym yn cadw’n ryseitiau’n weddol syml. Yn wahanol i gynhyrchwyr byrgyrs eraill, dim ond cig gorau’r cig oen fyddwn ni’n ei ddefnyddio.”

Lansiwyd y busnes newydd yn Sioe Caerwys ar 10 Mehefin eleni o’u trelar newydd a daeth llu o ymwelwyr i’r sioe i drio eu byrgyrs, stêcs cig oen, eu selsig cig oen a chennin, bacwn lleol ac wyau buarth o ieir a gafodd eu magu gan Harri, mab Gwyn. Maent yn amlwg wedi dechrau gweithredu fel maent yn bwriadu parhau, ac mae’r pâr yn darparu hyd at 150 o brydau'r awr i bobl sy’n amlwg ar lwgu mewn nifer o ddigwyddiadau ledled Gogledd Cymru a’r cyffiniau.

