
Mae’r traddodiad o werthu mêl yng Nghonwy wedi’i sefydlu ers blynyddoedd maith. Ym 1284, ar ôl codi ei gastell Saesneg a’r dref ar geg yr afon, rhoddodd Edward I siarter oedd yn caniatáu i bobl Cymraeg lleol fynd mewn i’r dref i werthu nwyddau ar bedwar diwrnod o’r flwyddyn. Un o’r rhain oedd ar gyfer gwerthu mêl ar 13 Medi, ac felly dechreuodd hanes hir y dref gaerog hon, ac yn wir ei dir gwledig pellach gyda gwenynyddiaeth. Dros 700 mlynedd yn ddiweddaraf, mae Ffair Fêl Conwy yn parhau i ddenu siopwyr awyddus i ymweld â stondinau’r gwenynwyr sy’n llenwi’r stryd fawr gyda mêl, teisennau mêl, canhwyllau cŵyr gwenyn, sebonau a rhoddion.

Mae Cymdeithas Gwenynwyr Conwy yn rhedeg y Ffair Fêl ers 1990, a sefydlwyd y gymdeithas i ddechrau ym 1978 gan Dennis Adams a Gwynfor Evans, ac mae’r aelodau sylfaenol yn cynnwys Will Berry, disgynnydd o’r teulu oedd wedi cynnal y Ffair Fêl ers 1850, a Peter McFadden, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Gymdeithas ac yn trefnu’r Ffair. “Sefydlom y Gymdeithas i ddod a gwenynwyr lleol ynghyd i rannu gwybodaeth a phrofiad.” meddai Peter o’r Gymdeithas, sydd bellach ag 80 aelod ledled Gogledd Gorllewin Cymru. “Rydym yn cynnal cyfarfodydd yng Ngholeg St. David a sesiynau hyfforddi yn ein gwenynfa yn Nhal y Cafn. Rydym hefyd yn rhedeg dosbarth nos boblogaidd gyda chefnogaeth Canolfan ar gyfer Defnydd Tir Amgen Prifysgol Bangor sydd wedi ein helpu ni gyda llawer o brosiectau.”


