Blasu Conwy

Bryn Cocyn Organic Beef and Lamb

Bryn Cocyn
Llannefydd
Denbigh
LL16 5DH

Manylion cyswllt: Patrick Noble a Joyce Brown

Rhif Ffôn: 01745 540207

Gwefan:
www.bryncocynorganic.co.uk
E-bost:
drwy’r wefan

Cig eidion o wartheg Duon Cymreig a gwartheg Charolais Cross. Cig oen o ddefaid Beulah Speckled Face..

Safon Organig y Soil Association

Ar werth yn:

Marchnad y Bobl, Dinbych Dydd Gwener olaf bob mis

Marchnad Cynhyrchion Rhuthun Dydd Sadwrn olaf bob mis

Marchnad Ffermwyr Celyn Trydydd dydd Sul bob mis

Marchnad Ffermwyr Abbey Leys Dydd Sul cyntaf bob mis

Marchnad Ffermwyr Wirral Ail ddydd Sadwrn bob mis

O’r fferm – ffoniwch cyn dod draw

Ym Marchnad Ffermwyr Llanrwst yn fuan

Mae Patrick Noble yn ystyried bwyd organig yn y dyfodol fel cylch hunan-adnewyddu lle mae adnoddau yn cael eu gwerthu rhwng gwledydd, er lles y ddwy ochr. “I ni, mae cynhyrchu bwyd organig yn ymwneud yn bennaf â marchnata bwydydd organig, wrth ddarparu adnoddau hunan-gynaliadwy yn uwch o lawer na manteision iechyd a lles o system o’r fath”.

Mae Patrick a’i bartner Joyce Brown wedi bod yn dilyn yr athroniaeth hon yn Fferm Bryn Cocyn yng nghysgod Moel Fodiar uwchben Dyffryn Clwyd ers 1986 pan wnaethant gymryd yr awenau gan dad Joyce. Maent wedi ffermio gwartheg Duon Cymreig a gwartheg Charolais

Cig Eidion a Chig Oen Organig Bryn Cocyn

Cross ar gyfer cig eidion a defaid Beulah Speckled Face ar dir bryniog isel ers iddynt gyrraedd yno yn wreiddiol, ac fe gawsant statws Organig y Soil Association ym 1989. Mae’r cwpl hefyd yn tyfu amrywiol lysiau, grawn a pherlysiau, yn bennaf fel bwyd ar gyfer y gwartheg a’r defaid ar y fferm sy’n golygu mai ychydig iawn o gynnyrch maent yn ei brynu i mewn i’r fferm.

Mae’r anifeiliaid yn cael eu lladd 10 munud i ffwrdd yn Ninbych, yn un o’r ychydig ladd-dai sydd â thrwydded organig, ac mae cig organig Fferm Bryn Cocyn ar gael yn gynyddol mewn Marchnadoedd Ffermydd yn y rhanbarth, yn ogystal â mewn digwyddiadau yng Ngŵyl Goed Llanelwy ac mewn Sioeau yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Gall bobl ddod i’r fferm hefyd drwy drefnu ymlaen llaw, lle byddwch yn cael eich croesawu, mae’n debyg, gan Floss y ci a nifer o gathod.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni gan y byddwn yn cynnig amrywiaeth ehangach yn fuan,” meddai Patrick. “Rydym ar fin gosod uned prosesu cig ar y fferm, er mwyn cynhyrchu ein rysáit ein hunain o fyrgyrs a selsig organig, ac rydym yn bwriadu defnyddio’r cynhyrchion rydym yn eu tyfu ein hunain fel perlysiau a grawnfwydydd cymaint ag sy’n bosibl. Felly mi fydd popeth yn cael eu

cynhyrchu ar y fferm.” Mae Bryn Cocyn hefyd ar fin cymryd rhan ym Menter Gwinllannoedd Gogledd Ddwyrain Cymru i dyfu amrywiol fathau o afalau, a ddewiswyd gan y Brogdale Institute ar gyfer eu blas a’r ffaith eu bod yn atal clefydau. “Yn y tymor hir bydd hyn rhoi afalau anghyffredin a gwych i ni i’w gwerthu i’n cwsmeriaid.”

Mae Patrick hefyd yn gobeithio cael cylch hunan-adnewyddu ei hun. “Byddai’n wych petai’n meibion, Huw ac Owain, yn cymryd rhan yn y busnes un diwrnod, yn enwedig Owain gan ei fod newydd orffen Gradd mewn Amaethyddiaeth Organig yn Aberystwyth, ond dw i’n meddwl yr hoffai gael profiad yn rhywle arall gyntaf.”

Cartref
Cynhyrchwyr
Cyflenwyr
Cymdeithasau
Digwyddiadau