Blasu Conwy

Cig Eidion a Chig Oen Organig Bryn Dowsi

Bryn Dowsi
Gyffin
Conwy
LL32 8YF.

Manylion cyswllt:
Beryl & Dafydd Roberts

Rhif Ffôn: 01492 592182

Rhif Ffôn Symudol:
07957 881473

E-bost:
berylanddafydd@
bryndowsicottages.co.uk

Gwefan:
www.bryndowsicottages.co.uk

Cig Eidion Organig Gwartheg Duon Cymreig a gwartheg Charolais Cross a chig oen Cymreig.

Statws organig - Organic Farmers and Growers ers 2001.

Ar werth:

Archebion dros y ffôn neu e-bost.

Cynlluniau amaethyddol-amgylcheddol fel Tir Gofal ac yn fwy diweddar, Tir Cynnal a gynorthwyodd Beryl a Dafydd Roberts i droi eu fferm ddefaid a chig eidion ar lethrau uwchben Conwy i fod yn fferm organig. “Roeddem eisoes yn meddwl am ffermio llai ac roeddem wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru i wella ein tir pan ddaeth Tir Gofal i rym a dyma oedd yr hwb yr oeddem ei angen,” esboniodd Dafydd.

Cig Eidion a Chig Oen Organig Bryn Dowsi

ffyrdd o dorri i lawr ar y plaladdwyr a’r gwrtaith oedd yn cael ei ddefnyddio, gan gyflwyno mannau mawr o leiniau llawn meillion i borthi’r tir, pan lansiwyd Tir Gofal ym 1999. Roedd yn cael ei reoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac roedd y cynllun fferm gyfan hwn wedi ei ddylunio i annog arferion ffermio sy’n diogelu ac yn gwella tirweddau a bywyd gwyllt yng Nghymru. Nid oedd angen gwneud llawer i argyhoeddi Dafydd a Beryl, ac yn fuan roeddynt yn gostwng nifer y defaid Mynydd Cymreig a’r gwartheg Duon Cymreig a’r gwartheg Charolais Cross oedd ganddynt ar eu fferm a chael llwyni newydd. Roedd ffermio llai a gwella amgylchedd y fferm yn rhoi dwy fantais fawr i’r cwpl, un o’r rhain oedd cael statws organig y Soil Association yn 2001. “Hefyd, fe sylweddolom y gallem bellach gynnig safle iach a phrydferth sy’n agos at atyniadau Conwy ac Eryri, ac roedd gennym adeiladau fferm nad oeddem eu hangen bellach,” meddai Beryl. Aeth y cwpl ymlaen i drawsnewid rhai o’r adeiladau amaethyddol hyn i lety gwyliau hunan arlwyo a bellach maent yn cynnwys pum eiddo gan gynnwys yr ysgubor, y ffermdai a’r beudai blaenorol.

Roedd y fferm 200 erw wedi cael ei rhedeg gan deulu Dafydd ers cannoedd o flynyddoedd cyn iddo gymryd yr awenau ym 1984 yn dilyn marwolaeth sydyn ei ewythr. Roedd y cwpl wedi bod yn chwilio am

Er bod llawer o’n hamser yn cael ei dreulio yn rhedeg y bythynnod gwyliau, mae’r 400 dafad a’r 20 o wartheg cig eidion ar y fferm yn caniatáu iddynt ddarparu cig organig, ac mae ychydig o’r cig yn cael ei werthu drwy farchnad Graig Farm Organics. “Rydym wedi cynnal stondin yng Ngŵyl Fwyd Conwy ddwywaith bellach” meddai Beryl, “ac rydym wedi gwerthu allan o bob dim bob tro!” “Ni fyddwn byth mewn sefyllfa lle allwn gyflenwi llawer o gig organig, ac i fod yn onest nid dyna yw bwriad cynhyrchu bwyd organig. Mae’n golygu y gallwn ddod i adnabod ein cwsmeriaid ac mae hynny yn addas iawn i ni,” esboniodd Dafydd.

Cartref
Cynhyrchwyr
Cyflenwyr
Cymdeithasau
Digwyddiadau