Blasu Conwy

Bragdy Conwy
Brewery Ltd

Uned 3,
Parc Caer Seion,
Conwy,
LL32 8FA

Manylion Cyswllt:
Gwynne Thomas

Rhif Ffôn:
01492 585287

Gwefan:
www.conwybrewery.co.uk

E-bost:
enquiries@
conwybrewery.co.uk

Castle Bitter,
Celebration Ale
Balchder Cymru,
Cwrw Mêl.

Cwrw sy’n cael ei fragu o bryd i’w gilydd:
Telford Porter – rhwng Hydref a Rhagfyr
Dawns Haul Sun Dance - rhwng Mai a Medi
Cwrw Arbennig
Mulberry Mild
Hoppy Christmas

Ar werth yn:
Siop y Bragdy sydd ar agor rhwng 10 a 6

Ar ddydd Gwener yn:
Co-operative Stores, Threshers Off Licences, siopau Spar, gwestai, bwytai a thafarndai ledled Gogledd Cymru. Hefyd yn siop Conwy Fine Wines, Conwy.

Gŵyl Gwrw Lleol, Gwledd Conwy – 27 a 28 Hydref 2007

Newydd ar gyfer 2008: Teithiau o amgylch y bragdy – Penwythnosau rhwng 12 a 5 rhwng y Pasg a mis Hydref
Teithiau corfforathol a phreifat o amgylch y bragdy drwy wneud apwyntiad

Mae GWYNNE Thomas bob amser wedi bod yn frwdfrydig am gelf yr alcemydd o droi un sylwedd i rywbeth gwbl wahanol a dymunol.

Am y rhan fwyaf o’i fywyd gwaith, mae hynny wedi cynnwys tiwbiau profi a chemegau. Ond bellach mae Gwynne yn gweithio gyda cherwyni yn trawsffurfio brag, barlys a hops i gwrw go iawn.

Roedd Gwynne wrth ei fodd yn creu cwrw gartref a symudodd i fragdy masnachol dair blynedd a hanner yn ôl. Wrth wneud hynny, mae wedi dod â’r grefft o wneud cwrw yn ôl i Gonwy ar ôl bwlch o ddwy neu dair canrif ac mae ar flaen y gad o’r chwyldro bragu yng Nghymru.

Bragdy Conwy Brewery Ltd

“Dechreuais fragu gartref tua 20 mlynedd yn ôl,” esboniodd y cyn reolwr labordy cemegol fel mae’n troi cerwyn anferthol o gymysgfa. “Fi oedd ‘bragwr y brifysgol’ a dechreuais gyda phecynnau o Boots,” meddai. Ond y dechrau’n unig oedd hynny, ac oherwydd ei gwest am gwrw sy’n blasu’n well ac yn debycach i gwrw masnachol, aeth un gam yn nes at ddechrau ei gwmni ei hun.

“Cyfuniad o anfodlonrwydd cyffredinol gyda’m swydd a phobl yn dweud wrthyf pa mor dda oedd fy nghwrw a wnaeth i mi benderfynu yn y pendraw,” meddai. “Ac yna bu i’r canghellor dorri cyfraddau dyletswydd ar gyfer bragdai bach, a daeth arian Amcan Un ar gael.”

Mae’n cael ei gynorthwyo gan ei wraig Adele sy’n gofalu am yr ochr swyddfa o’r busnes, ac oherwydd llwyddiant y bragdy mae bellach wedi symud i eiddo mwy gan ddyblu ei gwmpas a gallu potelu yn awtomatig.

Ond wedi dweud hynny, mae’n dymuno plesio ei gwsmeriaid, ac fe wnaiff hyd yn oed fragu ychydig o gwrw yn arbennig ar gyfer tafarndai unigol a dathliadau arbennig.

“Mae cwrw go iawn yn rhyw fath o chwyldro,” meddai. “Rydym yn darparu cynnyrch ar gyfer yr yfwr mwy craff gan symud i ffwrdd oddi wrth y ddelwedd o’r hen ddyn yn yfed cwrw.”

Ond nid yw’n treulio ei ddiwrnodau i gyd mewn welintons gwyn, yn troelli cymysgfa, a’i drosglwyddo i gynhwysydd copr mawr.

“Ddim o gwbl,” meddai gan wenu.
Cartref
Cynhyrchwyr
Cyflenwyr
Cymdeithasau
Digwyddiadau