

Erbyn hyn mae mwyneiddiad isel dŵr Decantae wedi helpu i gynyddu poblogrwydd ‘The Prince of Natural Waters’ mewn marchnad gystadleuol. “Fodd bynnag, roedd angen newid pethau,” meddai Ian Spooner, Cyfarwyddwr Gwerthiant y cwmni. “Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad hon, roedd angen i’r cwmni fuddsoddi mewn gwaith newydd ond nid oedd ganddo arian.” Gwelodd John Andrews OBE, entrepreneur o Ganolbarth Lloegr, bod cyfle i fuddsoddi mewn Decantae ac, ym 1991, prynodd teuluoedd Andrews a Johnson, y mae Ian yn aelod ohonynt, y cwmni. “Fe fuddsoddom ni’n arw mewn gwaith potelu newydd er mwyn ehangu’r cynnyrch. Roedd y busnes wedi colli allan i gynhyrchwyr dŵr llonydd eraill yn ystod y cyfnod hwn o newid, felly roedd angen i ni chwilio am farchnadoedd newydd.” Aeth y cwmni ymlaen i gyflenwi potiau dŵr i brif gwmnïau awyrennau a chynhyrchu poteli plastig llai yn fuan iawn ar ôl hynny. Bellach ni sy’n cynhyrchu’r nifer fwyaf o botiau dŵr llonydd yn Ewrop, a buddsoddodd y cwmni filiwn o bunnau ychwanegol yn 2005 ar beiriant potelu i gynyddu’r cynhyrchiant ymhellach.


