Blasu Conwy

Siop Fferm Dolwen

Cefn Fran
Dolwen
Abergele
Gogledd Cymru
LL22 8NH

Manylion cyswllt:
Tudor Jones

Rhif Ffôn: 01492 680209

E-bost : info@dolwenfarmshop.co.uk

Gwefan: www.dolwenfarmshop.co.uk

Cig eidion o wartheg Charolais, Limousin, Gwartheg Duon Cymreig a Gwartheg yr Ucheldir. Cig oen a chig dafad Cymreig. Porc o Gloucester Old Spots, Saddlebacks a Large Whites.

Ar werth yn:
Siop Fferm Dolwen – ar agor drwy’r dydd ar ddydd Mercher, a phrynhawniau Iau a Gwener.

Hefyd ar gael o:
Marchnad Ffermwyr Bae Colwyn,
Marchnad Ffermwyr Newferry, Marchnad Ffermwyr Ellesmere Port,
Marchnad Ffermwyr Celyn a Marchnad Ffermwyr Cyffordd Llandudno

Ar werth ym Marchnad Ffermwyr Llandudno yn fuan.

Tudor Jones yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio Cefn Fran yn Nolwen, uwch ben Bae Colwyn, a diolch i farchnadoedd ffermwyr a’i siop mae’n annhebygol mai ef fydd yr olaf.
Ychydig flynyddoedd yn ôl nid oedd pethau yn edrych yr un mor sicr ar gyfer Tudor a’i wraig Mona na’u tri mab Noel, Dylan a Llion a’u merch Anna. Roedd prisiau cig ansefydlog ac adenillion gwael ar arwerthiant eu cig eidion, cig oen a phorc yn ffaith ddigalon o fywyd.

Ond drwy werthu nwyddau mewn marchnadoedd ffermwyr a gwerthiannau uniongyrchol i’r cyhoedd yn eu siop fferm, mae’r dyfodol yn edrych ychydig yn well.

Siop Fferm Dolwen

" Roeddem wedi cael ein gwahodd i ymuno â marchnad Celyn ac roeddem wedi penderfynu ei drio am ychydig fisoedd i weld os oedd hi’n werth i ni fynd yno. Wedi’r cwbl, mae’n cymryd 45 munud i ni yrru yno," esboniodd Tudor wrth gymryd seibiant byr o’r cyfnod wyna i fynd â ni o amgylch ei fferm brydferth, lle gwelir ieir, cŵn a chathod. "Roedd hynny bedair blynedd yn ôl ac erbyn hyn, os ydych chi eisiau ymuno ag unrhyw farchnad ffermwyr mae’n rhaid i chi fynd ar restr aros yn gyntaf."

Mae chwe blynedd o werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd wedi adnewyddu eu gobaith a’u rheolaeth dros y cynnyrch. Maent yn gallu ateb cwestiynau’r cyhoedd, gan ddweud wrthynt fod yr anifeiliaid yn teithio wyth milltir yn unig i’r lladd-dy, sut eu magwyd a rhoi gwybodaeth iddynt am eu porthiant.

Mae Tudor hefyd yn torri’r cig ar y stondin sy’n golygu bod y siopwr yn cael yn union faint o gig mae o’i angen. Ac mae ef a Mona yn croesawu awgrymiadau gan eu cwsmeriaid. "Mae un o’n cwsmeriaid yn asiant teithio a gofynnodd i ni am gig dafad," esboniodd Tudor. "Roedd ei angen i wneud cyrri a daeth yn ôl atom a dweud ei fod yn ffantastig, yn union fel y dylai cyrri flasu." Mae cig dafad, sef dafad dwy oed a

hŷn yn mynd yn fwyfwy poblogaidd oherwydd bod y cyhoedd yn awyddus i gynhyrchu bwydydd traddodiadol. "Ond peidiwch â gofyn i mi sut flas sydd arno," meddai Tudor, "oherwydd rydym wedi gwerthu allan ohono bob tro!" Mae’r un cleient yn teithio i Zimbabwe ac oherwydd hyn cafodd flas am gig eidion hallt, felly mae hynny hefyd erbyn hyn yn rhan o restr cynhyrchion Cefn Fran.

Ond mae ffermio ei hun yn parhau i fod yn waith caled ac er y llwyddiannau mae wedi ei gael, mae Tudor yn dal i bryderu am y dyfodol. "Gallaf wneud mwy o arian o siop 10 metr sgwâr nag y gallai ar 200 erw o dir fferm," meddai yn drist.

Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref