
Pysgodfa Gwas y Neidr
Cerrigydrudion
Conwy
LL21 0RU
Manylion cyswllt:
Keith Russell
Rhif Ffôn: 01490 420530
E-bost:
dragonflyfishery@aol.com
Gwefan:
www.dragonflyfishery.com
www.dragonflyfishery.co.uk
Gwerthu brithyll seithliw ffres, pysgodfa frithyll, siop y bysgodfa.
Ar werth yn:
Siop Pysgodfa Gwas y Neidr
ar agor rhwng 8am a chyfnos, saith niwrnod yr wythnos.
Yn union fel mae ffordd Telford o Lundain i Gaergybi, lle mae’r llongau’n hwylio i Iwerddon, wedi denu teithwyr o bob cwr o’r byd ledled Gogledd Cymru, mae’r A5 yn parhau i ddenu pobl o bob cenedl i Bysgodfa Keith Russell yng Ngherrigydrudion. “Mae’n ddoniol, ond ymddengys bod teithwyr o Falaysia ac Indonesia wrth eu boddau yn dewis brithyll seithliw yn ffres o’r tanc i gael i swper. Rwy’n tybio fod hynny oherwydd bod eu diwylliant bwyd eu hunain yn gweithredu mewn modd tebyg,” meddai Nick sydd wedi bod yn cynorthwyo Keith ers y dechrau. Er bod llawer o dwristiaid yn ymweld i ddewis brithyll ffres o’r dŵr, mae llawer mwy yn manteisio ar y cyfle i bysgota yn y llyn ar siâp S o ddwy erw am yr amrywiol fathau o frithyll sy’n nofio ynddo.

Ers i Keith brynu’r bysgodfa yn 2005, mae wedi gweithio oriau hir er mwyn gwella’r cyfleusterau sy’n cael eu cynnig, gan osod cabannau a decin uwchben y tir corsiog i gynnwys siop a chaffi’r bysgodfa a phrynu stoc fesul tipyn i ychwanegu canolfan arddio at y busnes. “Rydym wedi bod yn ehangu ein nwyddau yn y siop,” esboniodd Keith, “ac oherwydd mai garddwr tirwedd oeddwn i o’r blaen, roeddwn yn meddwl ei fod yn gwneud synnwyr i ddefnyddio ychydig o’r tir yma i redeg busnes cysylltiedig. Y gobaith ydi y bydd cwsmeriaid eisiau manteisio ar y bysgodfa a’r ganolfan arddio.” Gyda chymorth ac arbenigedd technegol Nick Griffin oedd wedi bod yn rhedeg fferm frithyll yng Nglyn Ceiriog ac yn cyflenwi pysgodfeydd gan gynnwys Pysgodfa Gwas y Neidr, mae’r llyn pysgota wedi cael ei adnewyddu a’i wella, ac er ei fod yn agos at yr A5, mae’n le llawn tawelwch.
Er bod pysgotwyr rheolaidd yn ymweld â Pysgodfa Gwas y Neidr sy’n teithio yno o ardal sy’n ymestyn o Lerpwl i Ffestiniog ac Ynys Môn, gall newydd-ddyfodiaid i’r weithgaredd fanteisio ar sgiliau gwych Nick drwy archebu gwers i ddechreuwyr am awr i ddysgu am bysgota a’i dechneg. “Rydym yn cael lot o deuluoedd yn dod yma gan ei fod yn weithgaredd dda i rieni a phlant,” esboniodd Nick. Mae’r siop yn llogi’r holl offer sydd ei angen - y wialen bysgota, rîl, llinell, plu pysgota, rhwyd - ac mae hynny’n ddefnyddiol iawn pan fo ymwelwr rheolaidd yn cyrraedd ac wedi anghofio rhywbeth pwysig.
Bydd Keith a Nick yn cynnal Marchnad Ffermwyr Cerrigydrudion ar eu

tir yn fuan ac maent yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn prynu eu brithyll seithliw ffres a chael cyngor am sut i’w goginio. “Coginiwch y pysgodyn yn ffres a bydd yr esgyrn yn dod allan i gyd gan nad ydynt yn frau oherwydd eu bod wedi’u rhewi.” Fe gofiaf hynny.

