Blasu Conwy

Wyau Buarth
Garreg Lwyd

Tyn y Coed Ucha
Maenan
Llanrwst
Conwy
LL26 0YA

Manylion cyswllt:
Alwyn Royle

Rhif Ffôn: 01492 641233

Wyau buarth o ieir nad ydynt wedi cael unrhyw borthiant sydd wedi'u haddasu'n enetig, antibiotigau neu hyrwyddwyr twf.

Wedi’u cymeradwyo gan DEFRA.

Ar werth yn:

Archebion dros y ffôn.

Clwy Traed a’r Genau 2001, a achosodd galedi i gymaint o deuluoedd ffermio, a arweiniodd Alwyn Royle i edrych am ffynhonnell arall o incwm ar gyfer ei fferm, Garreg Lwyd, sy’n wynebu Moel Siabod, uwchben Llanrwst.

 

Cafodd ei fam, sy’n un o ddeg o blant ei magu yn yr hen ffermdy oedd â dwy ystafell i fyny’r grisiau a dwy ystafell ar y llawr gwaelod, cyn i’r teulu brynu’r fferm yn y pendraw, ac roedd hi bob amser wedi cadw ychydig o ieir. Penderfynodd Alwyn ehangu ei braidd a phum mlynedd yn ddiweddarach, mae ef a’i deulu yn cynhyrchu can dwsin o wyau buarth y diwrnod o 3,500 o feysydd. “Rydym yn ffermio 40 erw yma a

Wyau Buarth Garreg Lwyd

40 arall ym Melin y coed felly roedd cadw ieir buarth yn ddewis amlwg pan gawsom ein cyfyngu gydag anifeiliaid eraill yn ystod cyfnod y clwy traed a’r genau. Bu i’r incwm a wnaethom o’r wyau’n ddefnyddiol iawn y flwyddyn honno,” meddai Alwyn. Nid yn unig y mae’r ieir yn ieir buarth ond mae’r cwpl hefyd wedi gwneud yn siŵr nad yw’r ieir yn cael unrhyw borthiant sy’n cael ei addasu'n enetig, antibiotigau neu hyrwyddwyr twf.

Er bod ganddynt 120 o wartheg cig eidion a 350 o ddefaid Charollais i ofalu amdanynt yn ogystal â’r ieir, ymddengys bod Alwyn yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser y dyddiau hyn yn dosbarthu wyau i westai, siopau, a siopau cigydd o Fethesda i Ddyffryn Clwyd lle mae’n cyflenwi wyau i The Patchwork Traditional Food Company ar gyfer eu pates a’u pastai. Fodd bynnag, y dechrau yn unig yw hyn i Alwyn, “Rydym wedi cael sawl cais am wyau sofliar, sy’n prysur ddod yn gynhwysydd poblogaidd iawn, ac wyau hwyaid hefyd. Felly rydym yn gwneud ymchwil ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio dod â’r rhain i’n cwsmeriaid yn y dyfodol.” Gyda chynlluniau i adnewyddu a symud yn ôl i’r hen ffermdy, mae dyfodol Alwyn, Susan a’u plant Elin, Dafydd a Lea bellach yn edrych yn llawer mwy diogel nac y feddyliont ym mis Chwefror 2001.

Cartref
Cynhyrchwyr
Cyflenwyr
Cymdeithasau
Digwyddiadau