Little Black Hen
Islwyn
Isallt Road
Llysfaen
Bae Colwyn
LL29 8LZ
Cyswllt:
Brenda Otter
Ffôn: 01492 515967
E-bost:
brenda@redholt.com
Jam Aeron, Jam Eirin Mair a Blodau’r Ysgaw, Jam Riwbob a Sinsir, Jam Bricyll, Jam Mafon, Jam Eirin Cymreig Siytni Bengal, Siytni Celtaidd Cyffeithiau eraill tymhorol Wyau Buarth gan gynnwys wyau Araucana glas
Ar werth yn:
Wrth y giât, Islwyn, Isallt Road, Llysfaen
Marchnad Wledig
Llandrillo-yn-Rhos – Neuadd Eglwys Fethodistaidd, Rhos Road, Llandrillo-yn-Rhos. Dydd Gwener 10am – 12pm.
Eglwys Fethodistaidd Hen Golwyn –
2il ddydd Sadwrn y mis.
Ffair Hadau Conwy –
Dydd Sadwrn, 13 Medi 2008
Ffair Fêl –
Dydd Iau, 26 Mawrth 2009
Wrth eistedd ar feranda yn edrych allan dros y caeau tuag at Foelfre Uchaf yn y pellter, gallech daeru ein bod yn Ynys y Gogledd, Seland Newydd, lle ganwyd Brenda Otter, a lle bu hi’n helpu ei mam i droi amrywiol gynnyrch ffrwythau’r ynys i gyffaith a jamiau lliwgar. “Roedd hel popeth oedd yn tyfu o’n hamgylch yn rhan o’r ffordd y’n magwyd yn y rhan honno o’r byd,” esboniodd Brenda. .
Drwy barhau â thraddodiad ei phlentyndod, mae Brenda bellach yn manteisio ar yr amrywiaeth eang o ffrwythau tymhorol o lwyni o amgylch ei chartref yn Llysfaen ers dod i fyw yng Ngogledd Cymru, ar ôl cyfnod cynharach yn gweithio ar fferm pigo eich ffrwythau eich hun oedd gerllaw.

“Am flynyddoedd lawer, roeddwn yn swyddog gweinyddol ar gyfer busnes fy ngŵr, a phan benderfynais roi’r gorau i wneud hynny, roeddwn eisiau gwneud rhywbeth hollol wahanol,” meddai Brenda. “Ar ôl i fy jam mafon ennill y wobr gyntaf yn ein sioe arddwriaethol leol, meddyliais y gallwn droi fy sgiliau mewn i fusnes.” Drwy gyfuno blodau ac aeron coed ysgaw lleol a mwyar duon gwyllt gydag eirin Mair, riwbob, eirin, mafon neu fricyll, mae Brenda yn gwerthu’r
rhan fwyaf o’i jamiau a siytnis gwych yn Farchnad Gwledig Llandrillo-yn-Rhos, yn Hen Golwyn ac yn aml mae cwsmeriaid yn ymweld â hi i brynu cynhyrchion wrth y giât. “Byddwn wrth fy modd yn gwerthu mwy o gynhyrchion yn uniongyrchol i’r cyhoedd, gan eich bod yn gallu cael perthynas unigryw a chael atborth go iawn.”
Mae’r pedwar deg o ieir bodlon sy’n crwydro o amgylch ei gardd neu i’r cae cyfagos yn darparu incwm pellach drwy ddarparu wyau’n rheolaidd yn ogystal â rhoi ysbrydoliaeth i enw ei busnes gan fod ei hieir yn cynnwys ieir Black Rock a Hebden Black ynghyd â Longside Welsummers ac Araucanas. “Cefais yr Araucanas gan fy mod yn meddwl y byddai pobl yn hoffi’r wyau glas deniadol, ond i fy syndod, mae’n well gan fy nghwsmeriaid gael wyau brown!” esboniodd Brenda.


