
Llaethdy Pentref
Llaeth y Llan
Tal y Bryn
Llannefydd
Dinbych
LL16 5DR
Manylion cyswllt:
Gareth a Falmai Roberts
Rhif Ffôn: 01745 540256
Rhif Ffôn Symudol:
07970 908899
Gwefan:
www.villagedairy.co.uk
E-bost:
Llaeth@villagedairy.co.uk
25 blas iogwrt gan gynnwys iogwrt ffrwythau, amrywiaeth o nwyddau brecwast ‘Bora Da’ a’r amrywiaeth o bwdinau gwirodlyn.
Gwobr Aur Gwir Flas 2005 am Iogwrt Plaen Moethus ac Iogwrt Mefus Moethus
Gwobr Arian Gwir Flas 2005 am Iogwrt Lemwn a Limoncello Moethus, Iogwrt Mêl Moethus ac Iogwrt Grawnfwyd ac Afal Moethus
Ar werth yn:
Asda, Sainsbury a Morrisons
siopau ffermydd, delicatessens a siopau annibynnol ledled Cymru, ffiniau Cymru, gogledd orllewin Lloegr, Birmingham a Llundain.
Ludlow Marches Food & Drink Festival -
8 -10 Medi, 2006
Gwledd Conwy, Conwy -
21 a 22 Hydref 2006
BBC Good Food Show,
NEC Birmingham -
22 -26 Tachwedd 2006

Ni allai’r galon las afieithus sydd i’w gweld fel logo newydd Llaeth y Llan ar eu hiogwrt hufennog fod yn fwy priodol ar gyfer busnes sy’n cael ei redeg gan deulu, sydd wedi ennill nifer o Wobrau Gwir Flas. Mae’r amrywiaeth o nwyddau brecwast ‘Bora Da’ a lansiwyd ganddynt yn ddiweddar sy’n cynnwys ffrwythau a grawnfwydydd wedi rhoi lle blaenllaw iddynt ym masgedi siopa’r rhai sy’n gofalu am eu hiechyd. “Mae’r cwmni wedi tyfu gryn dipyn,” meddai Falmai. “Mae’n dangos beth y gallwch chi ei gyflawni pan fo gennych hyder yn eich cynnyrch a’ch amcanion.”
Mae’r cwmni’n parhau i gael ei redeg gan Falmai a Gareth Roberts a’u

mab Owain o’u fferm yn ymyl Llannefydd sy’n edrych dros Ddyffryn Elwy, ac maent wedi amrywio dipyn ar y busnes ers dechrau rownd lefrith o gwmpas y pentref gyda 50 o wartheg godro. Yn fuan ar ôl hynny, roedd y teulu Roberts yn chwilio am ffyrdd i ddefnyddio gormod o lefrith semi-sgim, is gynnyrch am y galw mawr am hufen gan westai lleol. Oherwydd cynnydd mawr mewn gwerthiannau iogwrt yn genedlaethol, ac a welir fel ‘bwyd cyflym’ gan lawer, a chyda grŵp o gwsmeriaid o bob oedran, dechreuodd Llaeth y Llan gynhyrchu eu hiogwrt ei hunain ym 1985 gyda dim ond dau fwced dur gwrthstaen yn y cwpwrdd crasu. “Yn y dechrau roeddem yn defnyddio potiau iogwrt gwyn plaen wedi’u labelu gyda ffelt-tip,” esboniodd Falmai. 
Fe ddatblygasant eu sgiliau drwy gyrsiau yng Ngholegau Reaseheath a Llysfasi ac yn fuan roeddent yn cynhyrchu 14 o flasau gwahanol oedd yn cael eu gwerthu’n lleol.
Ym 1995, a gyda chymorth arian yr UE, buddsoddodd y teulu mewn llaethdy newydd. Oherwydd eu bod drws nesaf i stondin wirodlyn yn Ffair Bwydydd Arbennig Olympia, sylweddolodd Falmai fod eu hiogwrt nhw yn ddelfrydol ar gyfer ei gyfuno gyda gwirodlyn i greu pwdin mwy egsotig. Erbyn hyn, maent yn cael eu gwerthu mewn pot du, ac mae’r iogwrt mwyaf diweddar yn cynnwys ‘Celtic Coffee’ a ‘Cointreau ac Oren’.

Bellach, mae 25 o flasau iogwrt yn cael eu gwerthu ledled Cymru, Gorllewin Lloegr ac yn Llundain a Birmingham, ac mae’r gwelliannau wedi cynyddu fesul blwyddyn nes eu bod bellach yn gwerthu 5 miliwn o botiau’r flwyddyn. Erbyn hyn, mae iogwrt Llaeth y Llan wedi ymddangos yn Harrods ac ar fyrddau’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Erbyn hyn maent yn cyflogi 12 o staff llawn amser, yn ogystal â rhai staff rhan-amser a thymhorol. Mae Gareth a Falmai yn parhau i chwilio am syniadau newydd. “Mae ein cwsmeriaid bob amser yn chwilio am gynnyrch newydd, felly i aros ar flaen y gad yn y busnes, mae angen i ni fod yn arloesol.”

