Piggin Perfect Pork & Loose Goose Cymru
Llanerch Farm
Llangernyw
Conwy
LL22 8RL
Cyswllt:
Howard Wallis & Sarah Bennett-Evans
Ffôn: 01745 860680
E-bost:
llanerchfarm@aol.com
Cyw iâr organig, wyau hwyaid a gwyddau Porc, gwyddau a chig oen organig
Ar werth yn:
Wyau –
wrth y giât, Llanerch Farm, Llangernyw
Porc, gwyddau a chig oen –
archebu dros y ffôn


Farm, roeddent yn symud yno gyda’u pedwar o blant yn eu harddegau, yn y gobaith y byddant i gyd yn hoffi byw yno.
“Penderfynom newid ein bywydau oherwydd ein bod ni’n dymuno magu ein hanifeiliaid ein hunain mewn dull organig,” esboniodd Howard. “Roedd angen clirio llawer o’r tir pan gyrhaeddom yma, ac roedd y tŷ bron yn adfail, ond rydym yn gwella pethau gan bwyll bach!” Ac yn wir, maent yn llwyddo i wneud hynny, oherwydd maent newydd orffen eu cyfnod wyna cyntaf gyda’r pedwar deg o ddefaid Mynydd Cymreig sydd ganddynt ac maent yn gwerthu wyau o’r saith deg pump iâr Welsummers, Marans, Hamburgs a Buff Orpingtons wrth giât y fferm. Mae’r hwyaid Muscovy sy’n crwydro o amgylch y buarth yn ffynhonnell wyau eraill, a chan fod rhai’n deor ar hyn o bryd, mae Howard a Sarah yn gobeithio gallu ychwanegu mwy atynt yn fuan.
Maent yn falch iawn o’u dau fochyn o dras Gymreig sy’n cael moch bach ar hyn o bryd, “digwyddiad pwysig iawn i ni!”, a byddant yn dychwelyd i’r fferm yn fuan i ymuno â’r ddau arall, sef Gloucester Old Spot a Saddleback. Er mai ychydig o wyddau oedd ganddynt i ddechrau er mwyn gallu gwerthu’r wyau maint omlet, mae’r cwpwl wedi penderfynu cynyddu’r haid yn sylweddol bellach. “Mae’n eithaf hawdd gofalu am wyddau ac mae llawer o gynhyrchion i’w cael ganddynt. Yn ogystal â gallu eu gwerthu fel aderyn bwrdd, gallwn werthu’r manblu a’r plu ac mae galw mawr am fraster gwyddau erbyn hyn, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer gwneud tatws rhost gwych!” meddai Sarah.
Gyda chymorth ariannol a chyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, maent yn gobeithio cael adeiladu uned brosesu organig ac ystafell oer eu hun ar y fferm erbyn diwedd y flwyddyn. “Wedyn, ni fydd rhaid i ni dalu i rywun arall baratoi ein cig, sy’n golygu y gallwn ychwanegu gwerth drwy ei dorri a’i becynnu ein hunain,” ychwanegodd Sarah. Pan fydd yr uned yn weithredol, bydd modd iddynt ganolbwyntio ar gynyddu eu gwerthiant mewn gwyliau bwyd, marchnadoedd ffermwyr a dros y rhyngrwyd. 
