Blasu Conwy

Ysbyty Ifan
Betws-y-coed
Conwy
LL24 0NL

Manylion cyswllt:
Eleri Roberts

Rhif Ffôn: 01690 770342

Gwefan:
www.poptypenuchaf.co.uk
neu www.cwlwm.co.uk

E-bost:
info@poptypenuchaf.co.uk
neu eleri@cwlwm.co.uk

Teisennau priodas, bwffes bychan, teisennau mawr ac unigol amrywiol, quiches, pate mecryll wedi’i fygu a ham wedi’i goginio gartref.

Ar werth yn:

Ystafelloedd Te Pen Isaf, Ysbyty Ifan. The Press Room, Conwy.

Archebion drwy Popty Pen Uchaf neu Wefan Cwlwm.

Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt – 27 a 28 Tachwedd 2006.

Ar werth ym Marchnad Ffermwyr Llanrwst yn fuan

Mae’n amlwg bod Eleri Roberts yn ferch gyda llawer o egni. Fel petai gofalu am 5 o blant yn eu harddegau, a helpu i reoli fferm y teulu uwchben Ysbyty Ifan yn ddigon iddi, mae hi hefyd yn rhedeg becws bychan, Popty Pen Uchaf, mae’n rhedeg ystafell de draddodiadol ac mae’n un o sylfaenwyr busnes gwasanaethau priodas gwledig.

Ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos, dechreuodd Eleri wneud teisennau priodas o gartref. “Roedd yn rhywbeth y gallwn ei wneud gan ddefnyddio’r sgiliau roeddwn wedi eu meithrin wrth fagu’r plant,” esboniodd Eleri. Aeth ymlaen i weithio mewn nifer o westai lleol, a chael profiad ym mecws Blas ar Fwyd yn Llanrwst cyn dod yn gogydd yn ysgol gynradd pentref Ysbyty Ifan.

Popty Pen Uchaf

Bryd hynny, bu i Eleri a phum gwraig fferm arall o’r ardal roi eu sgiliau ynghyd i sefydlu Gwasanaethau Priodas Cwlwm sy’n gweithredu o’r felin flawd flaenorol yn Ysbyty Ifan. “Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adnewyddu’r felin i ni i’w defnyddio fel siop ar gyfer y gwasanaethau gwahanol, ac fel lle gall pobl ddod i drafod eu gofynion priodas.” Wrth greu teisennau priodas gwych, mae talentau Eleri’n cyfuno’n dda gyda’r talentau eraill fel gwneud ffrogiau, hetiau, blodau, cerddoriaeth, cardiau a rhoddion sy’n cael eu cyflenwi gan eraill yn y busnes.

Yn y cyfamser roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar fin trawsnewid hen fythynnod drws nesaf i’r felin. “Gofynnais a fyddent yn ystyried rhentu’r adeilad i mi fel y gallwn sefydlu ystafell de a becws y drws nesaf i Cwlwm,” meddai Eleri. Felly yn 2004, rhoddodd gorau i’w swydd a dechreuodd wneud a gwerthu teisennau, quiches, pates a jams o Bopty Pen Uchaf. Erbyn hyn, mae hi’n gwneud teisennau priodas ac yn cyflenwi caffi lleol, ond mae hi hefyd wedi ymestyn ei gwasanaeth i ddarparu bwffes ar gyfer priodasau bychan yn yr ardal. Wrth geisio cynyddu lefel y cynhwysion lleol yn ei chynnyrch bob amser, mae Eleri yn parhau i farchnata ei chynnyrch ar ei phen ei hun ac ar wefan Cwlwm ac mae hi’n bwriadu gwerthu teisennau a jams mewn digwyddiadau a marchnadoedd ffermwyr. Mae ei ystafell de, Pen Isaf, sydd â waliau wedi’u gwyngalchu, lloriau llechi a dreseli a byrddau pîn ar agor ar ddydd Sadwrn, lle gall Eleri ddibynnu, gobeithio, ar ei phlant am gymorth.

Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref