Blasu Conwy

Uned 5
Parc Diwydiannol Minafon
Betws-yn-Rhos
Abergele
LL22 8AW

Manylion cyswllt:
Rhian Jones

Rhif Ffôn: 01492 680580
Rhif Ffôn Symudol:
07742 273425

E-bost:
rhianmair.jones@
btinternet.com

Pwdinau cartref. Teisennau traddodiadol, dathlu a phrynhawn. Bwffe.

Dyfarniad Hylendid Aur Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru

Ar werth yn:
I’w harchebu o’r ddewislen neu ar gais.

Gwledd Conwy – 27 a 28 Hydref 2007.

Marchnad Ffermwyr Conwy, Gwarchodfa Natur RSPB, Cyffordd Llandudno – 4ydd dydd Mercher bob mis.

Ar gael yn: The White Lion Inn, Llanelian; Plas Maenan Country House Hotel, Llanrwst; Pantri Cymraeg, Caernarfon; Sarah’s Delicatessen, Beaumaris; Minafon Stores, Betws yn Rhos; Zanzibar Teashop, Bae Colwyn; Café Aethwy, Porthaethwy; The Pier House Café, Beaumaris; Cwpwrdd Bach, Bae Colwyn; Caffi Castell Bodelwyddan; Pen y Bryn Tearooms, Conwy; Conwy Pantry, Conwy; Rhug Organic Farm Shop & Delicatessen, Corwen; Sospan Fach, Bala; Canolfan Arddio a Chaffi Fron Goch, Caernarfon.

Mae Rhian Jones wedi bod yn cyflenwi teisennau i Bencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn o’i becws Popty Penrhos, ers rhoi’r gorau i weithio fel rheolwr arlwyo cynorthwyol yno i redeg ei busnes yn llawn amser ym mis Mai 2005. “Roedd yn benderfyniad mawr rhoi’r gorau i gael cyflog misol rheolaidd, i ganolbwyntio ar fy musnes fy hun,” esboniodd Rhian, “ond rwy’n falch iawn fy mod wedi gwneud hefyd. Rwyf wrth fy modd gyda’r annibyniaeth sydd gennyf bellach er mae’n llawer mwy o waith caled nac yr oeddwn wedi ei ddychmygu.”

Cafodd Rhian ei hyfforddi yng Ngholeg Y Rhyl, a chafodd ei swyddgyntaf fel cymhorthydd arlwyo yn Ysgol Genethod Annibynnol

Popty Penrhos

Penrhos a datblygodd ei gyrfa yn sydyn iawn i fod yn Ben Gogydd yr ysgol. Ar ôl i’r ysgol gau, roedd Rhian eisoes wedi dechrau ystyried rhedeg ei busnes ei hun, a gofynnodd mwy a mwy o ffrindiau iddi greu teisennau i ddathlu achlysuron arbennig iddynt.

Roedd yn arfer gweithredu o gegin fechan ond berffaith o’i chartref yn Llanelian, ond mae Rhian bellach wedi symud i gegin fasnachol a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer ei chwmni ym mhentref prysur Betws-yn-Rhos. Yng nghysgod eglwys St Michael y pentref, mae’n cymysgu teisennau amrywiol fel battenburg, bara brith a sbwnj Victoria. Mae’n cael archebion gan westai, delicatessens a chaffis cyn belled i ffwrdd â Beaumaris, Caernarfon a Chastell Bodelwyddan. Bellach mae ei hamrywiaeth wedi ymestyn i gynnwys llawer o bwdinau a rhai bwffe. “Mae’r rhan fwyaf o’m cwsmeriaid newydd yn cael eu cyfeirio ataf drwy enw da neu rwyf wedi galw i mewn i’w gweld eisoes. Fel arfer rwy’n mynd â samplau gyda mi iddynt eu blasu, ac ymddengys bod hynny’n ddigon i’w argyhoeddi heb i mi orfod siarad gormod!”

Mae gan Rhian lawer o wybodaeth am deisennau. Am flynyddoedd maith bellach mae hi wedi bod yn beirniadu’r cystadlaethau teisennau yn Sioe Sir Feirionydd, Sioe Llanrwst a Sioe Amaethyddol Harlech.
 

Mae hi wedi ymddangos yn Sioe Sir Gwaenynog Sir Ddinbych, Gŵyl Fwyd Conwy a Marchnad Ffermwyr Conwy a chan fod Rhian wedi symud i eiddo mwy mae wedi caniatáu iddi werthu mwy o’i chynnyrch yn uniongyrchol. Felly os gall Rhian ddod o hyd i ddigon o oriau yn y diwrnod byddwn yn gweld llawer mwy ohoni mae’n siŵr.

Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref