TBlasu Conwy

The Pudding
Compartment Ltd

1 Berthglyd
Abergele
Conwy
LL22 7HR

Cyswllt: Mark Ellis

Ffôn: 01745 832441
Ffôn Symudol: 07765 623854

Gwefan:
www.thepudding
compartment.co.uk

E-bost:
markellis@thepudding
compartment.co.uk

Pwdin sitrws, pwdin siocled tywyll Belgaidd, pwdin siocled llefrith Belgaidd, pwdin sinsir, pwdin toffi, pwdin oren Seville, pwdin Nadolig.
Mwy o bwdinau ac amrywiaeth o sawsiau a chwstard ar y ffordd yn fuan.

Ar werth yn:
The Ham Bone Food Hall,
3 Lloyd Street, Llandudno

Celtica, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd
LL55 1TH

Stafford House Fine Food,
11 Stryd Fawr, Porthaethwy, Ynys Môn. LL59 5EE

Marchnad Ffermwyr Cyffordd Llandudno (Gwarchodfa RSPB, Conwy) – dydd Mercher diwethaf y mis, rhwng 9am to 2pm

Siop Fferm Stad Penarlâg
28 Mehefin 2008

Gŵyl Fwyd a Diod Croesoswallt, Canol y Dref
12 ac 13 Gorffennaf 2008

Sioe Haf RWAS, Cae Sioe Llanfair-ym-Muallt
rhwng 21 a 24 Gorffennaf 2008

Ac mewn siopau ffermydd a delicatessens eraill ledled Cymru a gogledd orllewin Lloegr

I fusnes wnaeth werthu ei bwdin Nadolig cyntaf saith mis yn ôl, mae gan The Pudding Compartment, o Abergele sy’n cael ei redeg gan Steve a Juliet West a ffrind Steve ers ei blentyndod Mark Ellis, gynlluniau ar gyfer gwerthu eu cynnyrch yn yr UDA ac yn Ewrop.

Ar ôl gyrfaoedd yn y diwydiant coffi a siocled yn Awstralia ac yn y busnes ymgynghori, daeth Steve a Mark yn ôl i’w tref enedigol yn 2006 i weithio ar syniad yr oedd Steve

The Pudding Compartment

wedi pendroni drosto am flynyddoedd lawer ar ôl sylweddoli y gallai’r DU wella’r bwyd mae’n ei gynhyrchu. “Bryd hynny, sylweddolom y gallem arwain chwyldro’r pwdin Prydeinig gwych,” meddai Mark.

Gan fanteisio ar gefndir teuluol yn y busnes bwyd, oedd yn cynnwys gwesty gwely a brecwast y teulu, ei dad yn gigydd a’i chwaer yn gogydd proffesiynol, cafodd Steve fan gwag mewn becws lleol oedd yn gysylltiedig â’i deulu. Gyda Tracey’n gweithio fel y prif ddyluniwr pwdinau, a Juliet fel Ysgrifennydd y Cwmni, lansiodd Steve a Mark eu busnes gydag amrywiaeth o Bwdinau Nadolig yn Ffair Nadolig y Sioe Frenhinol ym mis Tachwedd 2007. “Gweithiom gyda chwmni dylunio graffeg lleol i gael brand sy’n ymddangos yn gyfoes, ac ar yr un pryd yn cyfleu gwerthoedd mwy traddodiadol y pwdinau blasus sy’n defnyddio’r cynhwysion gorau a mwyaf ffres,” esboniodd Mark. “Rydym yn credu bod y cynnyrch terfynol yn cyflawni hynny.”

Ers hynny, mae’r amrywiaeth wedi ymestyn i gynnwys dau wahanol faint o bwdinau siocled Belgaidd, pwdin sitrws, pwdin sinsir, pwdin toffi, a phwdin oren Seville, ac mae pob un mewn carton papur bioddiraddadwy neu bowlenni ceramig. Wrth ddisgrifio eu cynhyrchion, esboniodd Mark “Mae ein pwdinau’n rhai ysgafn, yn wlyb ac yn fras.” Mae Tracey bob amser yn ceisio defnyddio cynhwysion lleol ac organig yn bennaf, lle bo hynny’n bosibl, ac mae hi’n gweithio’n galed i greu mwy o bwdinau i’w hychwanegu at y rhestr ac mae hi hefyd yn datblygu amrywiaeth o sawsiau a chwstard ar hyn o bryd.

Roedd gan lawer o bobl ddiddordeb mawr yn eu stondin yn y sioe Cegaid Canolbarth Cymru a’r Real Food Festival yn Earls Court. “Mae rhai cogyddion enwog wedi dangos diddordeb,” meddai Mark. “Daeth Anthony Worrall Thompson i ymweld â ni yn y ddau ddigwyddiad, a daeth Angela Hartnett, oedd yn gweithio i Gordon Ramsey cynt, draw am sgwrs.” Mae The Pudding Compartment hefyd wedi cael ymholiadau gan siopau ledled y DU, ac maent eisoes yn ystyried gwerthu tramor. Ymddengys na fydd llawer yn llesteirio uchelgeisiau byd-eang y cwmni newydd hwn.

Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref