Scrumptious Sandy’s Local Produce
Hafod Farm
Betws Road
Llanrwst
LL32 8FA.
Cyswllt: Sandy Luthe-Hughes
Ffôn: 01492 541392
Gwefan:
www.scrumptious
produce.co.uk
E-bost:
sandy@scrumptious
produce.co.uk
Llysiau, saladau, perlysiau, ffrwythau meddal. Bara, teisennau, pastai sawrus. Llefrith buwch a gafr, hufen, menyn, iogwrt, cawsiau (cheddar, ffeta, gafr a chawsiau trycl) Pysgod, gêm a chawsiau wedi’u mygu Cig eidion, cig oen, cig oen organig, porc, cyw iâr ac wyau.
Archebu i ddosbarthu (Sir Conwy yn unig)
Mae archebion dros £10 AM DDIM – fel arall mae cost dosbarthu o £2.50
Derbynnir archebion hyd at Ddydd Mawrth bob wythnos er mwyn dosbarthu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Pan gofrestrodd Sandy Luthe drwy ddamwain ar gwrs Saesneg Uwch pan roedd hi’n astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor, ychydig wnaeth hi feddwl y byddai’r marciau gwych a gafodd yn ei hail iaith ei helpu hi i hyrwyddo busnes dosbarthu cynnyrch lleol y byddai hi’n ei sefydlu ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ar ôl cyfarfod â’i darpar ŵr yng Ngogledd Cymru, dair blynedd yn ddiweddarach, gadawodd ei chartref yn Nwyrain yr Almaen i fyw ym Mae Penrhyn. Drwy ei phrofiad o weithio i gymdeithas tai merched a genedigaeth ei mab, Jake, dechreuodd feddwl am yr anawsterau sy’n bodoli o gael bwyd iach a lleol i deuluoedd sy’n gweithio neu sydd dan anfantais. “Roeddwn i eisiau darparu diet iach i Jake,” meddai

“a sylwais cyn lleied o siopau bwyd annibynnol sy’n parhau i fodoli oherwydd y gystadleuaeth gan siopau cadwyn.” Ers cyrraedd yn yr ardal, mae hi wedi sylwi ar brinder o ffynonellau o gynhyrchion lleol a llysiau organig.
Oherwydd ei diddordeb personol yn y mater, ac ar ôl cael cyngor gan Asiantaeth Fenter Conwy a Llygad Busnes, daeth Sandy o hyd i amrywiaeth eang o gynhyrchion lleol da yn ei hardal. Helpodd ei thad, sy’n “eithaf dawnus gyda chyfrifiaduron”, i sefydlu gwefan iddi, ac ym mis Chwefror 2008, lansiwyd Scrumptious Sandy’s Local Produce drwy ddosbarthu’r nwyddau cyntaf i fusnesau yn ystod yr wythnos a nwyddau i fusnesau a chartrefi ar benwythnosau ledled yr ardal.
Mae Sandy’n ychwanegu at ei rhestr o gynhyrchion bob amser, ac ar hyn o bryd, mae hi’n cyflenwi cig eidion, cig oen a phorc o “anifeiliaid hapus” yn Fferm Dolwen, cig oen organig o Fferm Bryn Dowsi, wyau a chywion ieir o Denbigh Farm a physgod wedi’u mygu o Derimon Smokery. Mae’r rhestr o gynhyrchion sydd ganddi yn cynnwys cawsiau a chynnyrch llaeth o Hufenfa De Arfon, Cawsiau Eryri a Cwt Caws, saladau a ffrwythau a dyfwyd drwy ddefnyddio dull hydroponeg gan Broga a llysiau eraill o Llanrwst Farm, Bryn Tatws a Pyllau Glaewen Farm yn Nyffryn Conwy, ac yn ogystal â hyn, ceir amrywiaeth o fara, teisennau a phethau sawrus arbennig o Fecws Alun ym Mhenmaenmawr. “Rwyf bob amser yn chwilio am fwy o gynhyrchion lleol, yn enwedig rhai nad ydynt ar gael yn y sir,” esboniodd Sandy. “Rwy’n gobeithio gallu cynnig ffrwythau a sudd Afalau Ynys Môn yn fuan, ac rwy’n edrych ymlaen at gyflenwi tyrcwn, hwyaid a gwyddau o Eglwysbach y Nadolig hwn.”
Mae Sandy’n cymryd archebion dros y ffôn ddechrau’r wythnos, ac yna, ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, mae hi’n dosbarthu fan llawn nwyddau blasus yn bersonol i gartrefi, swyddi a bythynnod gwyliau ledled Conwy. Wrth sôn am yr effaith mae hi’n ei gael ar yr economi fwyd lleol, dywedodd Sandy: “Rwy’n gobeithio fy mod yn gwella ymwybyddiaeth pobl yng Nghonwy, ac ymwelwyr, nad oes rhaid i’w bwyd deithio cannoedd o filltiroedd i gyrraedd eu platiau gan fod gennym ddetholiad gwych o fwyd gwych ar ein stepen drws. Rwy’n gobeithio fy mod yn gwneud yn siŵr fod y bwyd hwnnw’n haws i’w gael. Ac yn y broses, rwy’n teimlo’n wych fy mod i’n cefnogi cynhyrchwyr lleol.”

