Blasu Conwy

Parc Tŷ Gwyn
Ffordd Berth Ddu
Llanrwst
LL26 0PQ

Cyswllt:
Rhian Owen and
Rhian Williams

Ffôn: 01492 641940

E-bost:
siwgrasbeis@btinternet.com


Teisen Lemwn ac Eisin, Teisen Goffi a Chnau, Teisen Sbwng Siocled, Sgwariau Caramel, Florentines, Teisennau Paradwys, Sgons a llawer iawn mwy Yn ystod tymor y Nadolig: Teisennau Nadolig, pwdinau Nadolig, mins peis Hefyd, gellir archebu: Teisennau Pen-blwydd a theisennau ar gyfer achlysuron arbennig

Ar werth yn:

Gŵyl Fwyd a Diod Cilgwri
24 a 25 Awst 2008

Gŵyl Fwyd Llangollen
18 ac 19 Hydref 2008

Gwledd Conwy, Conwy
25 a 26 Hydref 2008

Ac ar gael mewn gwestai, bwytai, caffis, canolfannau gardd a siopau eraill ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae’n siŵr bod saith o blant Rhian Owen a Rhian Williams, cyd-sylfaenwyr becws Siwgr a Sbeis yn Llanrwst, wrth eu boddau’n cael Mamau sydd bob amser yn creu teisennau pen-blwydd blasus, teisennau Nadolig, teisennau ar gyfer picnic….pob mathau o deisennau ar gyfer pob achlysur teuluol! Yn wir, y llynedd, enillodd y busnes wobr Aur am eu Fflapjacs Cyrens Duon yng Ngwobrau Great Taste a drefnir gan y Guild of Fine Foods, a hynny am y tro cyntaf iddynt gystadlu mewn
Siwgr a Sbeis

cystadleuaeth o’r fath.

Ar ôl hyfforddi mewn gwaith Becws a Danteithion gyda’i gilydd yn Wrecsam, penderfynodd y ddwy ffrind ysgol sefydlu busnes mewn siop yn Llanrwst ym 1989. “Roeddem ill dwy wedi bod yn gweithio mewn becws lleol ac agorom ein siop un ar ddeg diwrnod ar ôl ymddiswyddo o’n swyddi, a hynny ar ôl gwneud yr holl waith paentio a theilsio ein hunain,” meddai Rhian Owen.

O fewn chwe mis, roeddent wedi cyflogi aelod arall o staff, ac ym 1991, fe wnaethant adnewyddu a thrawsnewid adeiladau fferm tu allan i’r dref i gael lle i’r ochr gynhyrchu’r busnes, oedd yn cynyddu o hyd ac o hyd. “Yn y dechrau, gyda chyn lleied ohonom, roedd yr adeilad i’w weld yn anferth, ond, erbyn 2006 roeddem yn cyflogi tua un deg chwech o staff, a hyd yn oed ar ôl trawsnewid mwyfwy ar yr adeilad ac ychwanegu caban symudol, nid oedd gennym ddigon o le!” esboniodd Rhian.

Yn y cyfamser, yn 2002, roedd y ddwy wedi penderfynu cau’r siop, a oedd yn delio mwyfwy gyda masnach amser cinio, ac yn wynebu newidiadau mewn arferion siopa, i ganolbwyntio ymhellach ar ddatblygu eu busnes becws cyfanwerthol. Sylweddolont eu bod angen ymestyn, ac felly dyluniwyd ac adeiladwyd becws modern 5,000 troedfedd sgwâr gyda chymorth Grant Prosesu a Marchnata gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Tŷ Gwyn, Llanrwst, a symudodd y busnes yno yn 2006. “Fe wnaethom wahodd ein darlithwyr coleg a’n cyn rheolwyr i’r agoriad swyddogol ac roedd hi’n wych gallu dangos iddynt yr hyn roeddem wedi’i gyflawni,” ychwanegodd Rhian.

Erbyn hyn, maen nhw’n cyflogi dau ddeg un o bobl, ac maent wedi gallu treulio mwy o amser yn datblygu’r amrywiaeth o gynhyrchion sydd ganddynt, gan ddefnyddio mwyfwy ar gynhyrchion rhanbarthol yn eu ryseitiau. Mae eu Quiche Eryri yn cyfuno cennin Llanrwst gyda Chaws Eryri, ac mae Toffoc, gwirodlyn toffi a fodca o Ynys Môn, yn cael ei gynnwys yn eu teisen gaws “Toffoc Crunch”. Gwelir faniau dosbarthu Siwgr a Sbeis, sy’n arddangos eu brandio nodweddiadol sepia o hogyn bach mewn het cogydd, yn aml ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac mae’r ddwy Rhian bob amser i’w gweld ar stondin Siwgr a Sbeis mewn gwyliau bwyd amrywiol ledled y wlad, ac yn aml yn cael cymorth eu plant sy’n amlwg yn entrepreneuriaid eu hunain!

Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref