Blasu Conwy

Llandudno Smokery
Uned 4
Builder Street
Llandudno
LL30 1DR.

Manylion cyswllt:
Mike a Jody Scrutton

Rhif Ffôn: 01492 870430 / 870327


Ffacs: 01492 870327

E-bost:
info@llandudnosmokery.co.uk

Gwefan:
www.thesmokery.co.uk

Amrywiaeth eang o bysgod a physgod cregyn ffres. Mae pysgod wedi’u mygu yn cynnwys eog, brithyll, corbenfras, mecryll; cigoedd wedi’u mygu yn cynnwys cyw iâr, hwyaid, gwyddau, bacwn, pysgod wedi’u rhewi a physgod cregyn wedi’u rhewi, cigoedd eraill yn cynnwys combács, sofliar, poussin a hwyaid; cigoedd hela gan gynnwys ffesant, colomennod, cig carw, cwningod ac amrywiol bysgod a llawer iawn o gynnyrch eraill.

Ar werth yn:
Archebion dros y ffôn, y ffacs neu’r e-bost.
Archebion ar-lein dros y wefan.

Siop Llandudno Smokery, Uned 4, Builder Street, Llandudno.

Gŵyl Fwyd yr Wyddgrug - 22 a 23 Medi 2007.

Gŵyl Fwyd Llangollen - 20 a 21 Hydref 2007.

Gwledd Conwy, Conwy - 27 a 28 Hydref 2007.

Ffair Aeaf Geltaidd, Llandudno - 21 i 25 Tachwedd 2007.

Ers 2005 mae Llandudno Smokery wedi cael ei redeg gan Mike a Jody Scrutton, ac maent wedi manteisio ar gyfuno arbenigedd unigol tad a mab gan roi safbwynt cyfoes i gwmni traddodiadol. Mae Jody wedi graddio mewn rheoli bwyd a lletygarwch, ac ef sy’n gyfrifol am y busnes o ddydd i ddydd, gan ganolbwyntio ar weithredu a chwsmeriaid. Mae pwyslais gryf ar gynnyrch o Gymru ac mae’n chwilio am y pysgod mwyaf ffres o farchnadoedd, tyfwyr a physgotwyr trwyddedig, ac mae Mike yn rheoli'r ochr gynllunio a strategol y busnes.

Llandudno Smokery

O’i siop wreiddiol ym Mhenmaenmawr, ehangodd y busnes i fod yn wasanaeth cyfanwerthol, gan gyflenwi pysgod, cigoedd hela ac eraill ledled gogledd-orllewin Cymru ac yn y pendraw cyflwynodd ei fwydydd wedi eu mygu eu hunain, yn dilyn adleoli i Landudno ym 1988. Ar ôl cael gwybodaeth dda o’r busnes, mae Mike a Jody yn awyddus i ddatblygu eu hamrywiaeth o fwydydd arbenigol gyda phwyslais cryf ar gynnyrch o Gymru.

“Mae angen i ni fanteisio ar ymwybyddiaeth cwsmeriaid a’u diddordeb mewn bwydydd a gynhyrchir yn lleol o ansawdd da,” meddai Mike. “Byddwn yn hyrwyddo ein hunaniaeth Gymraeg, er enghraifft, mae pob un o’n bwydydd yn cael eu mygu dros dderw Cymreig, gan ddefnyddio technegau mygu poeth ac oer.” Ac ar ben hynny maent hefyd yn cyflenwi cregyn bylchog Ynys Môn, cregyn gleision Conwy a mecryll wedi mygu o Fôr Iwerddon, ac mae nifer o gynnyrch newydd wedi cael eu cyflwyno gan gynnwys bacwn mêl cartref o Gymru ac amrywiaeth gyffrous o selsig wedi’u mygu.

“Hyd yn hyn mae ein busnes wedi bod yn cyflenwi gwestai a thai bwyta yn bennaf, ond oherwydd diddordeb cynyddol y cyhoedd mewn bwyd arbenigol, byddwn yn datblygu ymhellach i’r sector fasnachol, gan fanteisio ar y ffaith bod bwydydd wedi’i fygu yn para’n hirach”. Mae cynlluniau hefyd i gynyddu archebion o wefan Llandudno Smokery i ehangu marchnad ddaearyddol y cwmni. Fel rhan o’r datblygiad, mae’r cwmni wedi ail-frandio’n ddiweddar. “Rydym yn gobeithio ein bod wedi creu delwedd fodern, ddiddorol, a fydd yn tynnu sylw ein cwsmeriaid,” meddai Mike. Ond heb anghofio’r bwydydd traddodiadol wedi’u mygu, mae Mike a Jody yn defnyddio’r dull modern hwn o weithredu hefyd yn eu cynnyrch, ac yn fuan byddant yn cyflwyno opsiynau mwy sbeislyd sy’n deillio o ddylanwad gwlad enedigol Jody.
Cartref
Cynhyrchwyr
Cyflenwyr
Cymdeithasau
Digwyddiadau