Blasu Conwy

Gerddi Bodnant
Tal-y-cafn
Bae Colwyn
Conwy
LL28 5RE

Manylion cyswllt:
Alison Lindsay

Rhif ffôn: 01492 650046

Gwefan:
www.tipynbach.co.uk

E-bost:
info@tipynbach.co.uk

Peli siocled, siocledi hufen, pralin, melysyn Twrci wedi’i orchuddio gan siocled, marsipàn, sinsir, cnau a ffa coffi.

bocsys rhoddion a hamperi. Rhoddion Bychan ar gyfer Priodasau. Rhoddion Corfforaethol.

Ar werth yn:
Ar-lein o’n gwefan.

Stiwdios Celf a Chrefft Gerddi Bodnant, Tal y cafn. Conwy Fine Wines, Conwy; Sarah’s Deli, Beaumaris; Lottie & Wren, Caernarfon; Aberconwy House (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Conwy; Maes Carafannau Bron-y-Wendon, Llanddulas; Ffatri Fferins, Llanrwst; Galeri, Betws-y-coed; Siop Fferm Rhug, Corwen; Castell y Waun Castle (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), y Waun; Castell Powis (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), y Trallwng; Canolfan Ymwelwyr Tŷ Ddewi (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Tŷ Ddewi; Fabulous Welsh Cakes, Cei Mermaid, Caerdydd.

Gŵyl Fwyd Cymreig, Glansevern Hall, y Trallwng –
1 a 2 Medi 2007.
Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug, Sir Ddinbych –
22 a 23 Medi 2007.
Ffair Afalau, Erddig (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Wrecsam –
6 a 7 Hydref 2007.
Gwledd Conwy, Conwy
27 a 28 Hydref 2007.
Ffair Nadolig, Glynllifon, Caernarfon – Tachwedd 2007 – dyddiad i’w gadarnhau

Mae symud o faes bydwreigiaethi greu melysion angen cryn dipyn o ddychymyg, ond fodd bynnag, dyna sut ddechreuodd Alison Lindsay, sylfaenydd Cwmni Siocled Tipyn Bach ei gyrfa. Hyfforddodd fel bydwraig yn Ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam, ac yna aeth Alison i weithio yn yr Unol Daleithiau lle bu iddi gyfarfod ei gŵr yn California. Wrth ddychwelyd i’r DU ym 1995, teimlodd ei bod hi angen newid ei gyrfa’n llwyr, a graddiodd mewn Astudiaethau Bwyd a Defnyddwyr wrth weithio fel cogydd ac yn y siop Fresh and Wild Health Food. Efallai mai hynny, a’r astudiaethau gan gynnwys moeseg busnes a seicoleg bwyd wnaeth ennyn ei diddordeb a oedd yn ddiweddarach i’w weld yn y cwmni siocled, oherwydd ychydig iawn o fwydydd eraill sydd â mwy o arwyddocâd seicolegol na siocled.
Cwmni Siocled Tipyn Bach
Erbyn hyn, mae gan y cwmni un aelod llawn amser ac un rhan-amser ac mae ei busnes wedi rhagori ar ei disgwyliadau ac roedd ei siocled yn ganolbwynt i agor y Venue Cymru newydd yn Llandudno ym mis Mehefin. Mae Alison wedi cyflwyno ei siocledi Tipyn Bach i’w Fawrhydi Tywysog Cymru hyd yn oed mewn digwyddiad Celfyddydau a Busnesau Cymru yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug, ym mis Gorffennaf. “Roedd yn ddiwrnod poeth iawn y diwrnod hwnnw, ac rydym yn falch iawn na wnaeth y siocledi brenhinol droi’n fondue!”
Mae Alison yn wreiddiol o Lanelwy, a symudodd hi a’i gŵr i Gonwy yn 2004 ac, o fewn 3 mis, roedd y busnes yn weithredol, ac fe’i lansiwyd gydag amrywiaeth bychan o beli siocled yng Ngŵyl gyntaf Gwledd Conwy ym mis Hydref. “Roeddwn yn cynhyrchu siocledi gyda’m dwylo o’n cegin fechan yn y tŷ, gan ddechrau am chwech yn y bore i gynhyrchu digon ar gyfer yr Ŵyl Fwyd,” meddai Alison, “ond roedd hi’n werth gwneud hynny gan ein bod mor llwyddiannus.”
Yn ffodus iawn, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, daeth un o stiwdios newydd Gerddi Bodnant yn wag a symudodd Alison i mewn i’r uned drws nesaf i’r allanfa i erddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mis Mawrth 2005. “Mae’n wych cael cymaint o bobl yn galw heibio ond erbyn Dydd Llun y Pasg cyntaf i ni fod yno, roeddem wedi gwerthu popeth. Wrth ystyried ein bod yn dal i wneud y siocledi gyda llaw bryd hynny ar beiriant dros dro, rwy’n synnu na wnaethom werthu popeth ynghynt.” Ers hynny, mae ei amrywiaeth wedi ehangu i gynnwys peli siocled, siocledi hufen a melysion Twrci wedi’u gorchuddio â siocled a marsipán, gan gynnwys Mêl Rowen, Dyffryn Conwy, Gwirodlyn Cnau Cyll Condessa a Fodca Toffoc o Ynys Môn a Chwisgi Penderyn a Gwirodlyn Merlyn Cymreig o Dde Cymru. Mae Alison ar fin cynnwys halen môr o Halen Môn i gynhyrchu caramel hallt wedi’i orchuddio â siocled enwog masnach teg Ghana.
Digwyddiadau
Cymdeithasau
Cyflenwyr
Cynhyrchwyr
Cartref