
Cynnyrch Organig
Tŷ Newydd
Tŷ Newydd Uchaf
Penmachno
Betws-y-coed
Conwy
LL24 0AJ
Manylion cyswllt:
Claire Barnard
Rhif Ffôn: 01690 760350
E-bost: clairebarnardburrows
@yahoo.co.uk
Gwefan: www.tnorganics.co.uk
Wyau ieir traddodiadol ac organig gan gynnwys wyau glas Araucana, wyau hwyaid Khaki Campbell organig, wyau gwyddau Tsieineaidd organig, cig oen Mynydd Cymreig organig, porc organig, gwyddau a thwrciod organig adeg y Nadolig.
Safon Organig y Soil Association
UKTV Local Food Hero
Ar werth yn:
Wrth giât y fferm a gellir archebu dros y ffôn a’r e-bost.
Edwards o Gonwy
Marchnad Gynhyrchion Rhuthun
Marchnad Gynhyrchion Conwy

Dymuniad i arwain bywyd gwledig oedd y rheswm pam symudodd Claire Barnard a’i phartner o Hertfordshire i fagu defaid, lamas, gwyddau, combács, hwyaid a llawer iawn o gywion ieir organig ar 21 erw o dir, a gymeradwywyd gan y Soil Association, tu allan Benmachno ym mhen uchaf Dyffryn Conwy.
Gan ddechrau gyda 3 iâr yn yr ardd, prynodd, Claire a Richard 14 erw lle'r oedd yr ieir eisoes wedi bod yn clwydo, gan ei ddefnyddio ar gyfer praidd o 22 dafad Mynydd Cymreig ‘Badger Face’. Adnewyddodd y cwpl hen ffermdy allan o’r pentref gan gael 7 erw arall sydd erbyn hyn yn gartref i 100 o fridiau traddodiadol gan gynnwys ‘Rhode Island Reds’,

‘Light Sussex’, ‘Buff Sussex’, ‘Marans’, ‘Welsummers’ ac ‘Araucanas’, sy’n enwog am ddodwy wyau glas prydferth. Gan ddarparu hyd at 80 ŵy y diwrnod, mae Claire yn gwerthu’r rhain i gydweithwyr yn yr ysgol lle mae’n dysgu a thrwy werthiannau uniongyrchol.
Mae’r hwyaid ‘Khaki Campbell’ a’r Gwyddau Tsieineaidd sydd ar y fferm yn fwy egsotig. “Mae wyau hwyaid ychydig yn fwy blasus, ond dim ond am dair wythnos maen nhw’n para, a dyna pam mai wyau ieir oedd yn cael eu bwyta’n ystod y rhyfel yn hytrach nag wyau hwyaid,” esboniodd Richard, “ac mae wyau gwyddau mor fawr dim ond un sydd ei angen i wneud omlet!” Mae unrhyw wyau sydd ar ôl yn cael eu gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol. “Byddwn yn gwerthu cig oen a phorc o’r hydref ymlaen, ac yn magu gwyddau ar gyfer y Nadolig. Rydym hefyd yn ceisio magu twrciod Bronze traddodiadol ar gyfer y Farchnad Nadolig.”
“Rydym yn cadw combács a Hwyiaid ‘Indian Runner’ yn ogystal â hyn, ond am hwyl rydym ni’n gwneud hynny dweud gwir,” meddai Claire. Mae Sandra a George, y ddau lama, yn gŵn gwarchod da. “Maent yn beryglus iawn ac yn gwneud i lwynogod feddwl ddwywaith cyn lladd iâr,” meddai Claire.
“Rydym wrth ein boddau yma. Mae dod adref yn donig go iawn ar ôl diwrnod yn yr ysgol,” meddai. Gan edrych allan o’i ffermdy o’r ddeunawfed ganrif a adnewyddwyd ganddynt, heibio’r nant yn eu gardd ar ochr y bryn ac allan tuag at Ddyffryn Machno, mae’n hawdd gweld pam eu bod yn hoffi’r lle cymaint.


